Trafnidiaeth Cymru
Unigolyn â Gradd mewn Cyllid
£27,000
Yn gweithio o Bontypridd, Cymru
Cyfle i fod yn chi. Cyfle i gael eich grymuso. Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru.
Yn gyntaf: Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n falch o drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Cymru. Rydyn ni yma i gadw’r wlad i symud yn ddiogel, ond mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn llawer mwy na dim ond cael teithwyr o A i B. Rydyn ni’n cael effaith gadarnhaol ar lu o bobl, cymunedau a busnesau – a nawr dyma eich cyfle chi i fod yn rhan o hynny.
Mae ein cynllun i raddedigion Cyllid yn gwasgu llawer i mewn i ddwy flynedd. Byddwch yn cylchdroi rhwng nifer o dimau, gan gynnwys cyllid canolog, partneru busnes cyllid, trawsnewid cyllid ac archwilio mewnol. Wrth i chi ddod i ddeall ein byd o lygad y ffynnon, byddwch hefyd yn astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol cyfrifyddu (ACCA). Ond nid dyna’i diwedd hi. Byddwch yn torchi eich llewys ac yn cymryd rhan mewn llawer o bethau, fel: prosesu anfonebau prynu, paratoi cyllidebau, profi uwchraddio ein systemau a chynnal adolygiadau archwilio mewnol. Y llinell sylfaen? Gyda chyfuniad o brofiad ymarferol, astudiaethau academaidd, gweithdai a gweminarau, byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i roi cychwyn gwych i’ch gyrfa.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n gydweithiwr naturiol. Rhywun sy’n gallu cadw llygad ar eu prosiectau, darparu diweddariadau cywir a chydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Bydd gennych agwedd gadarnhaol, a byddwch yn chwilio am ffyrdd newydd o ddysgu a thyfu. Hefyd, gyda gradd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn maes perthnasol fel Cyllid, Cyfrifyddu, Astudiaethau Busnes neu Economeg, bydd gennych sgiliau rhifiadol a dadansoddi yn ogystal â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office, yn enwedig Excel.
Efallai fod y cyfan yn swnio’n llawer iawn, ond fe gewch chi lawer yn ôl hefyd. I ddechrau, mae manteision gwych, gan gynnwys 28 diwrnod o wyliau blynyddol, disgownt ar aelodaeth campfa a gostyngiadau mewn siopau. Yna, mae’r ffaith y byddwch, yma, yn gwneud eich marc mewn cwmni sy’n eich cefnogi a’ch annog yn llwyr. Wedi’r cyfan, dyma lle cewch eich grymuso i wneud pethau rhyfeddol dros bobl Cymru – a drosoch chi eich hun.
Barod i gyflawni? I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i (url removed)