Arweinwyr tîm sefydliadau cymunedol
37 awr yr wythnos
Contract: Rhwng 9 Chwefror 2021 a 16 Ebrill 2021 + gwyliau
Cyflog yn ddibynnol ar leoliad
Band 1 – £16.93
Band 2 – £14.67
Band 3 – £13.01
Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi weithio o fewn yr amseroedd canlynol:
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn: rhwng 9am ac 8pm
Dydd Sul a Gwyliau Banc: rhwng 10am a 4pm
Ysgogwyr pobl sy'n gwneud y cyfrifiad
Arolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n diwgydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Caiff y wybodaeth rydym ni'n ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.
Er mwyn ein helpu ni, mae angen tîm maes arnom i annog pobl mewn sefydliadau cymunedol i gymryd rhan. Llety preswyl a reolir yw sefydliadau cymunedol, fel prifysgolion a chartrefi gofal, felly byddwch yn cwrdd â phobl o bob cefndir.
Y rôl
Ydych chi'n meddu ar brofiad o reoli timau? Yn y rôl dros dro, bwysig hon, byddwch yn goruchwylio tîm o swyddogion y cyfrifiad, gan eu cefnogi i gysylltu ac ymweld â chyfeiriadau sefydliadau cymunedol ac annog pobl i gwblhau'r cyfrifiad.
Hefyd, byddwch yn cysylltu ac yn ymweld â'r sefydliadau cymunedol sydd wedi'u clustnodi i chi, naill ai i ddosbarthu holiaduron neu i wneud gwaith dilynol arnynt. Bydd hyn yn ymwneud â grwpiau poblogaeth arbenigol a diogel yn bennaf, fel carchardai, canolfannau milwrol a chartrefi brenhinol.
Bydd y rhan fwyaf o'ch gwaith wyneb yn wyneb, ond bydd angen i chi wneud galwadau ffôn cyn rhai ymweliadau, a meithrin cydberthnasau â rheolwyr a grwpiau i'w hannog i gymryd rhan. Byddwch hefyd yn helpu pobl i oresgyn unrhyw rwystrau rhag cwblhau'r holiadur, naill ai drwy eu helpu nhw eich hun neu eu cyfeirio at y cymorth sydd ar gael.
Bydd eich tîm yn gweithio o bell, felly bydd rhaid i chi ei annog a'i gymell drwy gadw mewn cysylltiad a chynnal galwadau a chyfarfodydd tîm rheolaidd. Byddwch hefyd yn delio ag unrhyw faterion a allai godi a'u huwchgyfeirio. Er mwyn helpu, bydd gennych gefnogaeth grŵp ehangach o arweinwyr tîm, rheolwr ardal wrth law i roi cyngor i chi, yn ogystal â chefnogaeth desg gymorth staff y cyfrifiad a chyfleuster cymorth ar-lein os bydd ei angen arnoch.
Amdanoch chi
Rydych yn rheolwr profiadol a chefnogol a all wneud penderfyniadau teg ac effeithiol yn brydlon. Mae proffesiynoldeb, hyder a gwydnwch i gyd yn bwysig, a bydd angen i chi fod yn hyderus yn mynd yma ac acw yn y gymuned leol. Byddwch yn defnyddio eich menter eich hun, yn meddwl yn annibynnol ac yn gallu cadw'ch pen hyd yn oed mewn sefyllfaoedd heriol.
Gan fod hon yn rôl sy'n gofyn i chi weithio gartref, bydd angen lle arnoch y gallwch ei ddefnyddio fel swyddfa i storio cyflenwadau cyn eu dosbarthu. Bydd hefyd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y DU a bod â cherbyd modur i'w ddefnyddio, wedi'i yswirio at ddefnydd busnes. Byddwn yn talu treuliau teithio yn eich ardal waith.
Ar gyfer rolau yng Nghymru, byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol.
Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n arweinydd tîm llawn cymhelliant, sydd â diddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl arweinydd tîm sefydliadau cymunedol.
Gallwn ond eich cyflogi os ydych yn gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.
COVID-19
Mae eich iechyd chi, ynghyd ag iechyd ein staff maes, yn hollbwysig i ni. Byddwn yn dilyn canllawiau diogelwch y llywodraeth ar y coronafeirws (COVID-19). Bydd cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddarparu i'r holl staff. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad